Hafan a Tudalen Flaen
Sefydlwyd Cymdeithas Cymry Ariannin ym 1939 gan rai a oedd â chysylltiad â'r Wladfa Gymreig yn Chubut er mwyn bod yn ddolen gyswllt rhwng y ddwy wlad. Cyhoeddwyd llyfryn - Cymdeithas Cymry Ariannin 1939-1989 gan y Gymdeithas ym 1989. Newidiwyd yr enw yng nghyfarfod blynyddol 1999 i Cymdeithas Cymru-Ariannin i adlewyrchu aelodaeth a gweithgareddau'r Gymdeithas heddiw.Mae'n gymdeithas elusennol; daw'r cyfan o'i hincwm oddi wrth ei haelodau, tua 230 ohonynt, ac mae'r gwaith sydd i'w wneud â'r incwm hwnnw yn fawr. Ymhlith ei chyfrifoldebau y mae:-

• Trefnu a noddi teithiau cyfnewid i athrawon, myfyrwyr a gweinidogion rhwng Cymru ac Ariannin. Mae gan y Gymdeithas gynrychiolydd ar Bwyllgor Project Cyngor Prydeinig Cymru sydd wedi bod yn gyrru athrawon i Chubut i ddysgu'r Gymraeg. Noddodd y Gymdeithas fyfyrwyr ychwanegol i'r chwech ddaw dan y Project i'r cwrs Cymraeg dwys a gynhelir yn Llanbedr Pont Steffan yn flynyddol yn yr haf.
• Noddi cystadleuaeth flynyddol, ers Eisteddfod Caerdydd 1978, yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru i rai sydd wedi byw yn y Wladfa ar hyd eu hoes ac yn dal i fyw yn Ariannin. Cyhoeddwyd dau ddetholiad o'r cynnyrch Atgofion o Batagonia; gol. R. Bryn Williams (Gwasg Gomer, 1980) a Byw ym Mhatagonia; gol. Guto Roberts a Marian Elias Roberts (Gwasg Gwynedd, 1993). Mae'r ddau lyfr allan o brint. Cyhoeddir Bywyd yn y Wladfa - detholiad o gynnyrch 1978- ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Meirion a'r cyffiniau 2009.
• Noddi myfyrwyr o Ariannin sy'n dymuno dod i Gymru i ehangu eu gorwelion addysgol. Bu cysylltiad clos gyda Choleg Harlech ers y canmlwyddiant ym 1965 a gobeithir parhau'r cysylltiad pan geir cyrsiau Cymraeg yno eto; noddwyd hefyd, yn y gorffennol, fyfyrwyr fu yn Ngholegau Llanymddyfri a Glynllifon.Mae gan Goleg Llabnymddyfri bellach Ysgoloriaeth Tom Gravelle a ddyfernir yn flynyddol.
• Ymhlith sefydliadau a gafodd nawdd yn ddiweddar mae Ysgol Gymraeg Trelew, Ysgol Feithrin y Gaiman a Chanolfan Gymraeg yr Andes.
• Cynhelir Cyfarfod Blynyddol y Gymdeithas ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn flynyddol a bu gan y Gymdeithas Babell ar y Maes ers 1997.
• Dethlir Gŵyl y Glaniad yn flynyddol yng Nghymru.
Mae'r cyswllt rhwng ein dwy wlad wedi parhau ers dros ganrif a thri chwarter ac yn sicr bu Ariannin a Chymru ar eu hennill o'r cyswllt hwn. Ein gobaith yw gallu cryfhau'r berthynas yn y dyfodol a chadw'n fyw ar gyfer y genhedlaeth sydd i ddod y freuddwyd fawr a fu â rhan fach mewn creu gwlad newydd.